Mae’n adrodd hanes y newyddiadurwr Cat Donato sy’n benderfynol o ddarganfod y gwir y tu ôl i’r sawl a laddodd ei chyn ffrind Ela Roberts pan oeddent yn eu harddegau. Yn y cyfamser mae mam Ela, Sharon, hefyd yn dal i chwilio am atebion am yr hyn ddigwyddodd y diwrnod hwnnw.
